NICHOLSON, WILLIAM (1844-1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr;
g. yng Nghaergybi fis Ebrill 1844. Addysgwyd ef gan ei weinidog, William Griffith [q.v]. Aeth i Goleg Normal Bangor, i ymgymhwyso i fod yn athro ysgol. Ar derfyn ei gwrs yn 1862 aeth yn athro i Lwydcoed, Aberdâr, ac yno, yn eglwys Horeb, y dechreuodd bregethu. Symudodd i ysgol Llanengan, Llŷn. Derbyniodd alwad i ofalu am eglwysi Rhoslan a Llanystumdwy ac ordeiniwyd ef 20 Awst 1867; arhosodd yno am ryw ddwy flynedd a symudodd i eglwys Treflys, Bethesda. Yn 1872 derbyniodd alwad o eglwys enwog y Groeswen a bu yno hyd 1876, pryd yr aeth yn olynydd i ‘Gwilym Hiraethog’ i eglwys Grove Street, Lerpwl, ac yno y bu f., Gorffennaf 1885; claddwyd ef yn Toxteth Park Cemetery, Lerpwl, yn 41 oed. Er na bu ond 18 mlynedd yn y weinidogaeth daeth yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd, a hynny ar gyfrif newydddeb ei ddawn. ‘Nid yn aml y clywid neb yn meddu mwy o allu i ddyddori ei wrandawyr,’ meddai'r Dr. John Thomas. Ar gyfrif ei amlygrwydd ynglŷn â brwydr y cyfansoddiadau (gw. M. D. Jones) cythruddodd nifer yn eglwys Grove Street; aethant allan a sefydlu eglwys arall yn Kensington yn 1878. Yr oedd Nicholson yn llenor a bardd gwych. Yn 1881 cyhoeddodd y Cennad Hedd, misolyn a gylchredai gan mwyaf ymhlith yr Annibynwyr, a pharhaodd i'w olygu hyd ei farw. Yn 1876 cyhoeddodd gyfrol yn cynnwys dyfyniadau o'i bregethau ynghydag englynion a chywyddau, etc., dan y teitl Y Dyferion.
Llyfryddiaeth:
- H.E.A.C., ii, 342, 378; iii, 203, 295; v, 406-13;
- Y Dysgedydd, 1867, 397;
- Bangor Normal College Reports, 1906;
- O. L. Roberts, Lloffion Grawnwin, 35.
Awdur:
Y Parch. Richard Griffith Owen, M.A., (1890-1973), Bangor