NICOLAS, DAFYDD (1705?-1774), bardd.
Tybiai T. C. Evans (‘Cadrawd’) mai ef oedd y gŵr o'r enw hwn a aned yn Llangynwyd yn 1705. Yr oedd yr hen bobl, meddai, yn sôn amdano fel un a fu'n cadw ysgol yn y plwyf. Rhestrai ‘Iolo Morganwg’ ef ymhlith y llenorion a oedd wedi eu haddysgu eu hunain. Bu'n byw wedi hynny yn Ystrad Dyfodwg, ac efallai yng Nglyncorrwg ac yng Nghwm-gwrach. Y mae'n gwbl bosibl mai ysgolfeistr crwydrad ydoedd yn y cyfnod hwn. Tua chanol y ganrif (neu efallai cyn hynny) enillodd sylw Williamsiaid Aberpergwm, a'r plas hwnnw fu ei gartref hyd ei farw. Mynnid yn y ganrif ddiwethaf mai fel ‘bardd teulu’ y cedwid ef yno, yr olaf, meddid, yng Nghymru, ond dywaid William Davies o'r Cringell, yn 1795-6, mai ‘private tutor’ ydoedd. Enillodd enw mawr iddo ei hun fel ysgolhaig clasurol, a chyfieithodd ran o'r Iliad i'r Gymraeg — o'r hyn lleiaf, dyna'r traddodiad yng Nglyn Nedd. Mynnai ‘Iolo Morganwg’ yntau ei fod yn medru Lladin, Groeg, a Ffrangeg, ac mai ef oedd y bardd cyfoethocaf ei awen ymhlith ei holl gydnabod. Er mai ychydig o sylw a roes i'r canu caeth, y mae'n eglur ei fod yn ffigur gweddol bwysig yn y deffroad llenyddol ym Morgannwg. Ei gerddi rhydd sy'n rhoddi ei le iddo fel bardd. Priodolir dwy gân iddo yn llyfr Maria Jane Williams [q.v.], Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, 1844, a cheir amryw eraill yn llawysgrifau ‘Iolo,’ cerddi i'w canu ar geinciau hen a diweddar. Yr oedd ganddo ddawn arbennig yn y cyfeiriad hwn, ac nid amhriodol fyddai ei alw yn ‘Geiriog’ y 18fed g. Gwelir yma fardd telynegol, a glywai fiwsig geiriau, mydryddwr a ymhyfrydai yn hoywder ei fydrau. Ef, yn ddiamau, ydoedd bardd gorau Morgannwg yn y 18fed g. cyn dyddiau ‘Iolo.’ Dywedir yn gyffredin iddo yrru llythyr at Edward Evan [q.v.] yn trafod techneg y canu rhydd, ond y mae'n weddol sicr mai ‘Iolo’ a'i lluniodd. Fe'i claddwyd yn Aberpergwm, yn 1774.
Llyfryddiaeth:
- T. C. Evans (‘Cadrawd'), Hist. of Llangynwyd Parish, 1887, 186-8;
- D. Rhys Phillips, The Hist. of the Vale of Neath, 1925, 546-53;
- G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 1948, 241-3, 290-300.
Awdur:
Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd