NORRIS, CHARLES (1779-1858), arlunydd ac ysgythrwr;
g. 24 Awst 1779 yn ail fab i John Norris, masnachwr cyfoethog yn Llundain, o'i wraig Catherine (Lynch), gwraig ysgaredig Henry Knight o Landidwg ym Morgannwg (gw. yr ysgrif ‘Knight'). Nid oedd yn Gymro, ond yng Nghymru y bu'n byw ac yn gweithio am gryn hanner canrif. Ymsefydlodd yn 1800 yn Aberdaugleddau, ond symudodd yn 1810 i Ddinbych-y-pysgod, lle y bu f. 16 Hydref 1858; â Thyddewi a Phenfro a Dinbych-y-pysgod y mae a fynno'r mwyafrif mawr o'i ddarluniau; cyhoeddodd hefyd lyfr, A Historical Account of Tenby, yn 1818 (2il arg. 1820). Yr oedd yn ‘gymeriad,’ ac y mae ysgrif fywiog arno gan Edward Laws [q.v.] yn Arch. Camb., 1891 — arni y seiliwyd yr ysgrif yn y D.N.B.
Llyfryddiaeth:
- Gw. hefyd A. L. Leach, Charles Norris (Tenby, 1949), gyda rhestr o'i weithiau gwreiddiol (amryw esiamplau ohonynt yn Ll.G.C.).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.