Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NOTT, Sir WILLIAM (1782-1845), milwr; g. 20 Ionawr 1782 gerllaw Castell Nedd, mab Charles Nott, Shobdan, sir Henffordd. Cafodd ei addysg yng Nghastell Nedd ac yn ysgol ramadeg y Bont-faen hyd 1794, pryd y daeth ei dad yn dafarnwr gwesty'r ‘Ivy Bush’ yn nhref Caerfyrddin. Yn 1798 ymunodd â chorff o wirfoddolwyr yng Nghaerfyrddin a chan iddo ddyfod i hoffi'r bywyd milwrol ymadawodd (1800) am yr India lle y cafodd gomisiwn swyddog yn y ‘Bengal European Regiment.’ Bu'n gwasnaethu yn yr India — ar wahân i egwyl fer yn 1822 a dreuliodd yng Nghaerfyrddin — hyd nes iddo ymneilltuo oblegid afiechyd yn 1844. Digwyddodd yr hyn yr enillodd fwyaf o enw iddo'i hun o'i blegid yn y rhyfel Afghan cyntaf, pryd yr arweiniodd lu o wŷr o Kandahar, gan orchfygu'r Afghaniaid yn Chuznee yn 1842 ac ymwthio ymlaen wedi hynny i Kabul. Treuliodd y cyfnod ar ôl ei ymneilltuad yng Nghaerfyrddin, lle y bu f. ar 1 Ionawr 1845. Claddwyd ef yn eglwys S. Pedr. Y mae cofgolofn iddo ar y sgwâr yng Nghaerfyrddin a elwir yn awr yn Nott Square.

Llyfryddiaeth:

  • J. H. Stocqueler, Memoir and Correspondence of Major-General Sir William Nott, G.C.B., 1854;
  • D.N.B.

Awdur:

Yr Athro Samuel Henry Fergus Johnston, M.A., (1908-91), Aberystwyth