OLIVER, DAVID (fl. 1785-1814); gweinidog.
Ni wyddom ddim amdano y tu allan i'r blynyddoedd a nodwyd. Ymddengys mai dyn o Gwm Rhondda oedd, o leiaf yr oedd yno pan gychwynnwyd achos y Bedyddwyr Neilltuol yn Ystradyfodwg; bedyddiwyd ef yno yn 1785. Dechreuodd bregethu yn 1786, ac urddwyd ef yn 1789. Pan ymrannodd Bedyddwyr y Deheudir yn 1799, aeth Oliver gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol (Arminaidd), a llwyddodd am flwyddyn neu ddwy i feddiannu'r capel (Nebo); ond erbyn 1802 yr oedd nid yn unig yn Armin ond hefyd yn Undodwr. Bu'n weinidog Hen Dŷ Cwrdd Aberdâr o 1803 hyd 1806, ac yna, o 1806 hyd tua diwedd 1814, yn weinidog y Gellionnen. Ymddengys ei enw yn y Monthly Repository yn y blynyddoedd 1807-13, yn adroddiadau cynadleddau'r Bedyddwyr Cyffredinol a'r Undodiaid fel ei gilydd — y cofnod diwethaf amdano yw ei fod i bregethu i gymanfa'r Undodiaid ar 12 Rhagfyr 1813. Ond edrydd Seren Gomer (24 Rhagfyr 1814) hanes ei dderbyn i blith yr Annibynwyr — yr oedd y pryd hynny'n byw yn Llangyfelach. Bu f. rywbryd cyn i David Jones sgrifennu ei Hanes — ‘yn lled ddibarch,’ meddai'r Bedyddiwr pybyr hwnnw.
Llyfryddiaeth:
- D. Jones, Bed. Deheubarth, 603-4;
- Yr Ymofynnydd, Gorffennaf a Medi 1930;
- a'r ddau gyfeiriad arall uchod.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.