OLIVER, EDWARD (1720-1777), Methodist a Morafiad cynnar, saer coed wrth ei waith;
g. ‘yn sir Drefaldwyn’ (meddai cofnod Morafaidd) ar ddydd Gwener y Groglith (15 Ebrill neu 29 Mawrth, yn ôl dull y calendr), 1720. Wedi gweithio yn Wrecsam (Gomer M. Roberts, Peter Williams, 33), symudodd yn 1748 i Lanbrynmair; yr oedd yn ‘gynghorwr cyhoedd’ cymharol ddinod gyda'r Methodistiaid. Yn ymraniad 1750 yr oedd ym mhlaid Harris; bu'n efengylu drosto yng Ngogledd Cymru ac yn bresennol mewn amryw o'i sasiynau. Yn 1752 ymunodd â Theulu Trefeca, ond yn 1753 aeth oddi yno i Fryste; yno dilynai ei grefft, a glynodd am beth amser wrth Fethodistiaeth Whitefield, ond yn y diwedd (1758) daeth yn aelod o'r gynulleidfa Forafaidd. Yn Hydref 1761 anfonwyd ef i'r Dderwen Deg (gerllaw Rhuthyn) i gychwyn cenhadaeth yn y Gogledd; bu yno (gan ddefnyddio'r lle'n ganolfan teithiau) ar waethaf anawsterau lawer hyd Fehefin 1774, pan symudodd i Abergwaun. Bu f. yn Abergwaun, 3 Mehefin 1777, a chladdwyd yn erw'r Brodyr yn Hwlffordd.
Llyfryddiaeth:
- Cymm., xlv (1938), pen. v. a'r cyfeiriadau yno.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.