OLIVER, JOHN (1838-1866), bardd;
pedwerydd plentyn John a Sarah Oliver. g. 7 Tachwedd 1838 yn White Hall, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, a bedyddiwyd ar y 18fed o'r un mis. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol y pentref (1843-50) ac mewn ysgol yng Nghaerfyrddin (1850-3), ac wedyn penderfynodd ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol. Ar ôl bod o 1853 hyd 1859 yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, lle yr astudiodd lenyddiaeth Saesneg ac Almaeneg yn arbennig, gorfodwyd ef gan afiechyd i roi heibio ei fwriad i fynd yn fyfyriwr i Brifysgol Glasgow. Gwaethygodd ei iechyd wedi hyn. Pregethai weithiau; cyfansoddodd farddoniaeth yn Gymraeg gan mwyaf; ac addysgodd nifer bychan o efrydwyr yn breifat. Bu f. 24 Mehefin 1866, a chladdwyd ar 28 Mehefin ym mynwent Llanfynydd. Casglodd ei frawd, y Parch. Henry Oliver, ei weithiau at ei gilydd, a chyhoeddodd hwynt yn 1867 o dan y teitl Cerddi Cystudd. Ystyrir ‘Dafydd, Tywysog yr Arglwydd’ a ‘Myfyrdod’ ymhlith y darnau gorau o'i eiddo.
Llyfryddiaeth:
- H. Oliver, Cerddi Cystudd (gyda rhagymadrodd bywgraffyddol);
- D.N.B. (rhydd gyfeiriadau eraill);
- O.C.C., 80;
- J.T.J., ii, 327;
- cofysgrifau'r Eglwys yng Nghymru (yn Ll.G.C.);
- N.L.W. MS. 10329 (163).
Awdur:
Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth