Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OLIVER(S), THOMAS (1725-1799), pregethwr gyda'r Wesleaid; g. yn Nhregynon, Maldwyn, yn 1725 (bedyddiwyd 8 Medi). Prentisiwyd ef yn grydd, a chrwydrai'r wlad gan ddilyn ei grefft. Argyhoeddwyd ef gan Whitefield, ym Mryste, ond â'r Wesleaid yr ymunodd. Yn 1753 dewisodd John Wesley ef yn bregethwr teithiol, a bu'n teithio am 22 mlynedd. Yn 1775 penododd Wesley ef yn arolygydd ei wasg yn Llundain, ond bu'n rhaid ei ddiswyddo yn 1789 am na wnâi'r gwaith i fodlonrwydd. Bu f. yn Llundain fis Mawrth 1799, a chladdwyd yn yr un beddrod â John Wesley — ni pheidiasai'r cyfeillgarwch agos rhyngddynt. Sgrifennodd lawer, yn rhyddiaith ac yn brydyddiaeth, ond fel awdur yr emyn ‘The God of Abraham praise’ y cofir ef heddiw. Ymwelai â Chymru, ac y mae'n debyg mai ato ef y cyfeiriai Wesley pan ddwedodd nad oedd ond un o'i bregethwyr a fedrai Gymraeg — anghofiodd Wesley am Harri Llwyd o'r Rhydri [q.v.]. Olivers a anfonwyd gan Wesley i ddarbwyllo Owen Davies [q.v.] i gymryd at bregethu.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B. (gan J. E. Lloyd);
  • R. Williams, Mont. Worthies (yn llawnach);
  • A. H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, 1800-1858, 58, 86.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.