Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OLLIVANT, ALFRED (1798-1882), esgob Llandaf; g. ym Manceinion 16 Awst 1798, mab William Ollivant o Fanceinion ac Elizabeth ei wraig. Cafodd ei addysg yn ysgol S. Paul, Llundain, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, a bu iddo yrfa academig ddisglair. Bu'n gymrawd o'i goleg; graddiodd yn M.A. yn 1824 ac yn B.D. a D.D. yn 1836. Yn 1827 penodwyd ef yn is-brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan, a bu yno hyd 1843. Am y chwe blynedd nesaf bu'n athro brenhinol mewn diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, nes ei benodi'n esgob Llandaf yn 1849. Daliodd y swydd hon hyd ei f. yn Llandaf, 16 Rhagfyr 1882, a chladdwyd ym mynwent yr eglwys gadeiriol. Ollivant oedd esgob cyntaf Llandaf ers hir amser i drigiannu yn ei esgobaeth; parodd atgyweirio'r eglwys gadeiriol, adeiladu 170 o eglwysi neu eu hailadeiladu, a gwella 70 o dai'r personiaid yn yr esgobaeth.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth