Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OSBWRN WYDDEL (yn fyw yn 1293), Gwyddel (eithr Gwyddel a pheth gwaed Cymreig ynddo) a ymsefydlodd yng ngorllewin Meirionnydd, gan briodi merch perchennog Cymreig Corsygedol, a dyfod yn hynafiad rhai o deuluoedd tiriog Meirionnydd — gw. e.e. yr erthyglau ar Wyniaid Glyncywarch, Wyniaid Peniarth, a Fychaniaid (Vaughan) Corsygedol. Olrheinir achau y teuluoedd hyn (ac eraill) naill ai at EINION AB OSBWRN neu at KENRIC AB OSBWRN; cysylltir Kenric â Chorsygedol. Ceir y nodiad llawnaf ar Osbwrn gan W. W. E. Wynne [q.v.] yn Pedigree of the Family of Wynne, of Peniarth in the County of Merioneth (London, 1872). Aelod o dylwyth pwerus y Geraldines ydoedd. Geilw Syr William Betham, Ulster-King-at-Arms, ef yn fab ‘John Fitz Thomas Fitz Maurice Fitz Gerald de Windsor the first Lord of Decies and Desmond,’ Yr oedd Gerald (Fitz Walter) de Windsor yn gwnstabl castell Penfro ac yn fyw yn 1108; ei wraig ef oedd Nest [q.v.], merch Rhys ap Tewdwr [q.v.]. Tybiai Robert Vaughan, Hengwrt (gw. Pen. MS. 6), i Osbwrn ddyfod i Gymru tua'r flwyddyn 1237 — nage, rai blynyddoedd yn ddiweddarach na hynny, meddai W. W. E. Wynne. Y mae prawf iddo gael ei drethu ym mhlwyf Llanaber (eithr nid treth blwyfol) yn y flwyddyn 1293 neu 1294; awgryma Wynne hefyd ei bod yn bosibl fod a fynnai ef rywbeth ag adeiladu eglwys Llanaber.

Llyfryddiaeth:

  • Nodwyd y ffynonellau yn yr erthygl.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

OSBWRN WYDDEL , (Bywg., 648) Dilëer ‘naill ai at EINION AB OSBWRN neu’.