Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN ab EDWIN (bu f. 1105), uchelwr yn Nhegeingl (sir y Fflint yn awr). Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd, Uchtryd, i Edwin ap Gronw (gor-or-ŵyr Hywel Dda) ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn [q.v.]. Serch i Owain gynorthwyo yr iarll Hugh o Gaer yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn Gwynedd yn 1098, priododd Angharad, ei chwaer, â Gruffydd ap Cynan [q.v.]. Gronw ei fab, oedd tad Christina [q.v.], ail wraig Owain Gwynedd [q.v.]. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd yn Owain ab Edwin, eithr o linach tywysogion Deheubarth.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • D.N.B.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

OWAIN ab EDWIN (Bywg., 648) Ei ferch oedd yr Angharad a briododd Gruffydd ap Cynan (nid ‘ei chwaer’).