Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN ap CADWGAN (bu f. 1116), tywysog Powys. Daeth i amlygrwydd (yn hytrach nag enwogrwydd) oblegid iddo ddwyn Nest [q.v.] i ffwrdd drwy drais yn 1109 a llofruddio, yn 1110, un o wŷr blaenllaw trefedigaeth y Fflemingiaid yn Nyfed, dau ddigwyddiad a barodd fod iddo elynion dros oes ymhlith y rhai y niweidiwyd hwy ganddo o'u plegid; yn wir, cymerwyd ei einioes oddi arno gan barti o Fflemingiaid a arweinid gan Gerald o Windsor, gŵr Nest, pan oedd ar gyrch ar ran y brenin yn erbyn cyd-dywysog yn Ne Cymru. Cyn hynny yr oedd (ar ôl dau gyfnod byr yn alltud yn Iwerddon) wedi dilyn ei dad, Cadwgan ap Bleddyn [q.v.], fel ‘breninPowys (1111). Ar ddiwedd ei gyrch brenhinol i Gymru yn 1114 gofalodd Harri I, a fuasai bob amser yn bur amyneddgar tuag at Owain, ei gymryd gydag ef i Normandi lle y cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1115. Ni adawodd Owain ddisgynyddion uniongyrchol.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • D.N.B.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth