Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN ap GRUFFYDD (bu f. 1236), tywysog Deheubarth; cyd-aer, gyda Rhys Ieuanc [q.v.] [Ni chafwyd erthygl], â Gruffydd [q.v.], mab hynaf yr arglwydd Rhys [q.v.]. Matilda, merch William de Breos [q.v.], oedd ei fam. Er ei fod dros dro, ar brydiau, yn gwrthwynebu Llywelyn I [q.v.], eto cafodd ef a'i frawd noddwr a diffynnydd pwerus iddynt yn Llywelyn yn erbyn eu hewythredd — Rhys Gryg [q.v] a Maelgwn [q.v.]. Yn y Cantref Bychan yr oedd y tiroedd a gafodd ef ar y cyntaf, eithr pan ailrannwyd tiroedd yr arglwydd Rhys yn 1216 (gw. Llywelyn I) cafodd diroedd y tu uchaf i afon Aeron hefyd a phan fu Rhys Ieuanc f. yn 1227 estynnwyd y rhain i gynnwys y rhan fwyaf o ogledd Ceredigion. Bu f. yn Ystrad Fflur 18 Ionawr 1236 a chladdwyd ef yn ochr ei rieni a'i frawd. Dilynwyd ef gan un mab — Maredudd.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • Williams, Strata Florida.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

OWAIN ap GRUFFYDD (bu f. 1236; Bywg., 648) Yn 1222 y bu Rhys Ieuanc f. (nid ‘1227’).