Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN ap GRUFFYDD, neu OWAIN GOCH (fl. 1260), tywysog yng Ngwynedd; mab hynaf Gruffydd ap Llywelyn I [q.v.], a Senana, a brawd Llywelyn II. Cadwyd ef yn garcharor gan ei frawd David II [q.v.] am flynyddoedd eithr trefnodd y brenin Harri III, yng nghytundeb Woodstock (1247), iddo gael cyfran o Eryri. Wedi brwydr Bryn Derwin (1254) cymerth Llywelyn II ei diroedd oddi arno a bu mewn carchar yr eiltro, ac am gyfnod hir. Bu raid i Lywelyn ei ryddhau, fodd bynnag, wedi'r gorchfygiad darostyngol a ddioddefodd hwnnw yn 1277, a gwneuthur Owain yn arglwydd ar ran o Lŷn. Cesglir iddo farw cyn y trychineb olaf (1282), eithr gw. farn arall, nad oes fawr o dystiolaeth o'i phlaid, yn Trans. Cymm., 1899-1900, 44-7. Nid oes ddadl nad Owain Lawgoch [q.v.] oedd y dioddefwr mwyaf oblegid ymgyrch y ddau Lywelyn yn erbyn yr arfer o rannu tiroedd yn gyfartal rhwng etifeddion.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.;
  • Littere Wallie;
  • Ancient Correspondence.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth