Daeth i Loegr yn haf 1365 er mwyn hawlio ei dreftadaeth o ochr ei dad (gw. Thomas); wedi iddo ennill y stad aeth yn ôl i Ffrainc ym mis Mawrth 1366. Yn niwedd y flwyddyn 1369 — ym mis Ebrill y flwyddyn honno ailddechreuodd y rhyfela rhwng Lloegr a Ffrainc a beidiasai yn 1360 — collodd Owain ei diroedd yn Lloegr a Chymru oblegid ei fod yn glynu wrth elynion brenin Lloegr. Yn y cyfnod hwn yn ei yrfa daeth i ymgymysgu a chysylltiadau gwleidyddol Lloegr a Ffrainc. Er bod Cymru yn ddieithr iddo — yn Lloegr y buasai ei dad a'i daid yn byw — yr oedd Owain yn gwbl ymwybodol o'i hawliau etifeddol fel olynydd uniongyrchol y ddau Lywelyn, fel y dengys Froissart yn eglur, ac ymddengys iddo grybwyll yr hawliau hyn yn fynych yng nghylchoedd llys Ffrainc. Manteisiwyd ar y rhain bellach er lles Ffrainc a gwnaethpwyd cynlluniau i dynnu sylw Lloegr rhag Ffrainc trwy geisio goresgyn Cymru o dan arweiniad Owain. Rhagflaenwyd cyrch 1372 trwy gyhoeddi proclamasiwn yn datgan hawliau Owain, eithr nid aethpwyd ymhellach na Guernsey; yn yr ynys honno parhaodd yr hanes am wrhydri a gweithredoedd Owain yn hir yn y cof ac mewn hanes, cân, a llên gwerin. Yr oedd yr awdurdodau yn Lloegr wedi paratoi ar gyfer cyrch ar Gymru cyn gynhared â mis Rhagfyr 1369; y mae'n ffaith drawiadol hefyd i frodor o sir Fôn, y flwyddyn ddilynol, gael ei gondemnio am fod mewn cyswllt ag ‘Owain Lawgoch, gelyn a bradwr,’ gyda'r bwriad o gychwyn rhyfel yng Nghymru. Y mae'r cyfeiriad neilltuol hwn at Owain Lawgoch, o'i ystyried ochr yn ochr â'r farddoniaeth broffwydol a gafwyd yn ddiweddarach ac a gysylltid â gwron o'r enw hwnnw — mewn un gân broffwydol uniaethir Owain Lawgoch ag Owain ap Thomas ap Rhodri — yn profi i enwogrwydd Owain barhau yn hir ei ddylanwad ar Gymru.
Y mae'n amlwg fod yr awdurdodau yn Lloegr yn ystyried bod Owain Lawgoch yn abl i achosi perygl i'r wlad honno. Profir hyn gan y modd y cyfarfu â'i ddiwedd yn ystod gwarchae Mortagne-sur-Mer gerllaw Bordeaux — yn ddios gyda chydsyniad yr awdurdodau Seisnig — ym mis Gorffennaf 1378. Sgotyn o'r enw John Lamb a'i llofruddiodd, gŵr a lwyddodd i ennill cyfeillgarwch Owain ac a ddysgodd beth oedd ei ddibenion. Claddwyd ef bedair milltir o'r man y lladdwyd ef, sef yn eglwys S. Leger. Galarwyd ar ei ôl gan lu mawr o gyfeillion a chydfilwyr, a chafodd gwrhydri a gweithredoedd y gŵr balch, caredig, eithr nwydwyllt, hwn ei groniclo gydag edmygedd gan rai o groniclwyr blaenllaw yr oes.
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth