OWAIN BROGYNTYN (fl. 1180), tywysog Powys;
mab ordderch i Madog ap Maredudd [q.v.], brenin diwethaf Powys. Magwyd ef yn Porkington, trefgordd a elwid yn Brogyntyn gan y Cymry, ac ymddengys iddo barhau ar delerau da â'r brenin Harri II wedi'r amser y bu ei dad farw (yn 1160), oblegid y mae ar gael gofnod yn ei ddisgrifio'n bensiynnwr y brenin mor ddiweddar â 1169. Yr oedd yn fyw yn 1183 ac yn dal tiroedd yn Edeirnion a Dinmael lle y ceir ei ddisgynyddion yn parhau yn ddeiliaid am gryn amser ar ôl y goncwest gan Edward I. Gadawodd dri mab, Bleddyn, Iorwerth, a Gruffydd, o'i wraig Margaret, merch Einion ap Seisyll, Mathafarn.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth