Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN, ‘SyrDAFYDD (DAVID), neu Dafydd ap Owain , offeiriad a phrydydd. Yn ôl Camb. Biog. ac Em. W. blodeuai yn y cyfnod 1540-70. Y mae'r gosodiad yn Em. W. ei fod o Faenan, sir Ddinbych, yn awgrymu y gellir ei gysylltu â Dafydd ap Owen, rheithor Nannerch a Llandoged, a ficer Eglwysfach, 1537 (J. E. Griffith, Pedigrees, 196). Cadwyd ychydig gywyddau o'i eiddo yn Pen. MSS. 86, 112; Jesus College MSS. 137-8; Cardiff MSS. 12, 64, 84; Llanst. MS. 156; Cwrtmawr MS. 5; B.M. Add. MSS. 14873-4, 14966, 14969, 15000; N.L.W. MSS. 670, 834, 1560, 2602-3, 2692, 5269, 5283, 5474 (Aberdare 1), 6434, 6471, 6681, 8330. Priodolwyd rhai o'i gywyddau i Ruffudd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan a Siôn Tudur.

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth