Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN FYCHAN ap MADOG ap MAREDUDD (bu f. 1187), tywysog Powys; un o feibion Madog [q.v.] o Susanna, merch Gruffydd ap Cynan. Yn ôl cân gyfoes, ym Mechain, Cynllaith, a Mochnant-Isrhaeadr y gorweddai ei diroedd ef; yr oeddent yn ffurfio cainc rhwng tiroedd ei frawd hynaf, Gruffydd [q.v.], a thiroedd ei gefnder, Owain Cyfeiliog [q.v.]. Yr oedd iddo bersonoliaeth ychydig uwchlaw'r cyffredin. Collodd ei fywyd yng Ngwern-y-Figyn gerllaw Carreg Hofa lle yr ymosodwyd arno yn fradwrus un noson gan Wenwynwyn [q.v.] a Chadwallon [q.v.] [Ni chafwyd erthygl], meibion Owain Cyfeiliog. Parhaodd ei ddisgynyddion i reoli dros diroedd ym Mechain (eithr tiroedd y cwtogasid llawer iawn arnynt) hyd ddiwedd y 13eg g.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth