Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWAIN GWYNEDD (fl. c. 1550-90), bardd a raddiodd yn Bencerdd Cerdd Dafod yn eisteddfod Caerwys, 1568 (Pen. MS. 121 (215), 132 (60), 144 (268)). Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau. Cywyddau i wahanol aelodau o deuluoedd bonheddig Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf ohonynt; yn eu plith ceir rhai i Lewys Owain o Ddolgellau a'i feibion, Siôn Owain Fychan o Lwydiarth, Siôn Salbri o Lyweni, Dafydd Llwyd ap Wiliam o Beniarth, a Dafydd Llwyd ap Huw ab Ifan o Ynys y Maengwyn. Canodd gywydd marwnad i'r bardd Syr Owain ap Gwilym, a chywyddau ymryson i Wiliam Llŷn ac i Huw Arwystl; canodd hefyd gywyddau crefyddol, cywydd i'r eira, a nifer o englynion amrywiol a gynnwys un ganddo ar ei glaf wely.

Llyfryddiaeth:

  • Aberdare MS. 1;
  • Bodewryd MSS. 1,2;
  • B.M. Add. MSS. 12230, 14874, 14875, 14878, 14879, 14882, 14971, 14976, 14998, 24980;
  • Brogyntyn MSS. 4, 5, 6;
  • Cardiff MSS. 12, 16, 19, 23, 48, 53, 63, 64, 65, 66, 83;
  • Christ Church (Oxford) MS. 184;
  • Cwrtmawr MSS. 5, 10, 12, 19, 23, 27, 127, 206, 224, 238, 242 244, 448, 454;
  • Hafod MSS. 12, 13;
  • Jes. Coll. MSS. 12, 15;
  • Llanst. MSS. 30, 35, 40, 49, 53, 54, 118, 120, 133, 155, 156, 167;
  • Mostyn MSS. 96, 144, 147, 160;
  • N.L.W. MSS. 244, 253, 278, 356, 431, 436, 643, 675, 719, 783, 1024, 1246, 1247, 1553, 1559, 2691, 5269, 6493, 6499, 7191, 8330, 13064, 13067;
  • Pen. MSS. 78, 82, 87, 92, 93, 95, 96, 97, 100, 104, 110, 112, 114, 121, 132, 144, 184, 195, 239, 327;
  • Swansea MSS. 1, 3;
  • Wrexham MS. 1;
  • Blackwell;
  • Cymru (O.J.);
  • Asaph (Em. W.)

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni