OWEN, CHARLES (bu f. 1746), gweinidog ac athro Ymneilltuol,
brawd iau i James Owen [q.v.] — am ei dras, gw. yr ysgrif ar hwnnw. Yn 1691-2 yr oedd yn derbyn grantiau i'w gynnal yn academi Bethnal Green, dan Ker; bu wedyn dan addysg ei frawd yng Nghroesoswallt. Yr oedd yn weinidog yn Wrecsam yn 1695 a 1696 beth bynnag, ond ar 13 Ebrill 1697 ymddengys ei enw yn rhestr gweinidogion Lancashire. O 1699 hyd ei f., 17 Chwefror 1746, bu'n weinidog Presbyteraidd Warrington. Cadwai yno ysgol yr oedd bri mawr iddi; yn 1728 (yng nghwmni Isaac Watts), cafodd radd D.D. gan Brifysgol Edinburgh. Sgrifennodd lawer, y cwbl yn Saesneg (gw. y rhestr yn y D.N.B.), yn eu plith gofiant, 1709, i'w frawd enwog. Yn wahanol i hwnnw, yr oedd yn ddadleuwr gwleidyddol eiddgar; erlynwyd ef ar gyfrif un o'i bamffledau — yn ofer, ond costiodd yr achos lawer o arian iddo. Ystyrid ef yn un o gefnogwyr blaenaf y llinach Hanoferaidd yng ngogledd Lloegr.
Llyfryddiaeth:
- Alexander Gordon yn y D.N.B. ac yn Gordon MS. (mynegai).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.