Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, DAVID (‘Dafydd y Garreg Wen ’; 1709-1739), bedyddiwyd 29 Ionawr 1708/9, mab Owen Humphreys, Ynyscynhaearn, sir Gaernarfon, a Gwen (Roberts), Isallt Fawr, Llanfihangel-y-Pennant (Eifionydd) — gw. J. E. Griffith, Pedigrees, 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor, ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ‘Dafydd y Garreg Wen,’ ‘Codiad yr Ehedydd,’ a ‘Difyrrwch Gwŷr Cricieth.’ Bu f. fis Awst 1739, a chladdwyd yn Ynyscynhaearn.

Llyfryddiaeth:

  • Edward Jones, Musical Relicks;
  • Y Brython, 1862-3;
  • Cymru (O.M.E.), iii;
  • Y Cymro, Mehefin a Gorffennaf 1949.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Atodiadau a chywiriadau:

OWEN, DAVID (‘Y Garreg Wen ’; Bywg., 658) bed. 27 Ionawr 1711/12 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd); claddwyd 2 Awst 1741 (rhestr plwyf Ynyscynhaearn).