Yr hyn a'i dug i amlygrwydd yng Nghymru oedd ei lythyr (dan y ffugenw ‘Brutus’) yn Seren Gomer, Mawrth 1824, yn ymosod ar yr iaith Gymraeg. O hynny allan fel ‘Brutus’ yr adwaenid ef. Wedi'i ddiarddel gan y Bedyddwyr, ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn y Capel Newydd ac ymroi i gadw ysgol yn Llangïan. Cafodd bregethu gyda'r Annibynwyr, ond ni ddaeth yn boblogaidd. Wedyn symudodd i Dyddynsweep, Maenaddfwyn, ger Llannerch-y-medd; ond ni bu'n llwyddiannus iawn yno chwaith, ac yn y man symudodd i'r Bontnewydd ger Caernarfon a chadw ysgol yno. Yn 1828, ar ôl ei benodi'n olygydd Lleuad yr Oes, cylchgrawn a gyhoeddid yn Aberystwyth, aeth i gadw ysgol yn Llanbadarn-fawr, ond pan brynwyd hawlfraint y cylchgrawn hwnnw yn 1829 gan Jeffrey Jones, yr argraffydd o Lanymddyfri, aeth ‘Brutus’ i fyw ym Mhentre-tŷ-gwyn. Pan fu Jeffrey Jones f. yn 1830, cychwynnwyd Yr Efangylydd, fel dilynydd i Lleuad yr Oes, gan bwyllgor o weinidogion yr Annibynwyr, gyda ‘Brutus’ yn olygydd a D.R. a W. Rees [q.v.], Llanymddyfri, yn argraffwyr. O dan olygyddiaeth ‘Brutus’ troes y cylchgrawn newydd yn fwy gwleidyddol nag y bwriedid iddo fod, a'i duedd at geidwadaeth wleidyddol ac eglwysig, a bygythiwyd troi ‘Brutus’ o'i swydd. Diwedd yr anghydfod oedd i'r Reesiaid sefydlu cylchgrawn newydd, Yr Haul, at wasanaeth yr Eglwys Sefydledig, a chyda ‘Brutus’ yn olygydd, ac i'r Annibynwyr sefydlu'r Diwygiwr, gyda'r Parch. D. Rees [q.v.] yn olygydd, yn 1835. Dychwelodd ‘Brutus’ at yr Eglwys, yn Llywel, a symud i fyw ym Mhwllmadog, ger y Pentre-bach, rhwng Llanymddyfri a Threcastell. Yn ddiweddarach bu'n byw ym Mronarthen, ger yr Half-way. Hyd ddiwedd ei oes parhaodd i olygu'r Haul gyda medr mawr, ond byddai'n mynd yn achlysurol i gapel y Bedyddwyr, Horeb, yng Nghwm-dŵr. Y mae'n rhyfedd na chafodd urddau gan yr Eglwys. Bu f. ar 16 Ionawr 1866 a'i gladdu yn eglwys Llywel, lle y mae coflech iddo.
Yr oedd yn ysgrifennwr toreithiog a chyhoeddodd lu o lyfrau crefyddol a diwinyddol; yn eu plith y mae Athrawiaeth Bedydd Babanod, 1828; Cwymp Babilon Fawr, 1829; Breinniau Babanod, 1830; Daearyddiaeth Ysgrythyrol, 1835; Allwedd y Cyssegr, 1835 (2il arg. 1839); Christmasia, 1840 (2il arg. 1861, 3ydd arg. 1887); Gweithrediadau yr Eglwys Sefydledig, 1841; Gwaedd Uwch Gwlad, 1843; Eliasia, 1844; Darganfyddiadau yn Ninefeh, 1852 (cyfieithiad o lyfr Saesneg gan A. H. Layard); Brutusiana, 1855, detholiad o'i ysgrifeniadau yn Yr Haul; a Cofiant y diweddar Barch. Thomas Williams, 1861. Nid fel ysgolhaig na diwinydd y mae'n bwysig, ond yn hytrach fel dychanwr. Ei brif gocyn hitio oedd cwacyddiaeth, yn arbennig cwacyddiaeth pregethwyr gwaethaf yr Ymneilltuwyr, y ‘Jacs’ fel y'u gelwid. Hwynthwy a ddilornir mewn llu o ysgrifau, traethodau, ac adolygiadau, yn Ymddiddanion Bugeiliaid Epynt (detholiad gan T. Jones, 1950) (Yr Haul, 1835-6), ac yn Wil Brydydd y Coed (ibid., Medi 1863-Rhagfyr 1865), a gyhoeddwyd hefyd ar wahân yn 1876 a 1896.
Yr Athro Thomas Jones, D.Litt., Aberystwyth