Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, EDWARD (c.1728-1807), clerigwr ac ysgolfeistr; mab David Owen, Llangurig, sir Drefaldwyn (gw. dan Owen o Gefn-hafodau, Teulu’). Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 22 Mawrth 1745/6, yn 17 mlwydd oed. Graddiodd B.A. 1749 ac M.A. 1752. Yn 1752 penodwyd ef yn athro ysgol ramadeg Warrington. Yn 1763 gwnaed ef yn beriglor Capel Sankey, Warrington, ac yn 1767 yn rheithor Warrington. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac enwogodd ei hunan fel clerigwr ac fel ysgolfeistr. Daeth llawer o'i ddisgyblion yn ddynion blaenllaw. Nodweddid ef â haelioni hynod, a bu'n gefn i Goronwy Owen [q.v.] pryd yr oedd hwnnw'n gurad yn Walton. Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a llenyddol Warrington, a bu'n llywydd llyfrgell Warrington. Ei brif waith cyhoeddedig ydyw Satires of Juvenal and Persius, translated into English Verse, 1785 (gydag argraffiadau diweddarach yn 1786 ac 1810). Cyhoeddodd hefyd ramadegau Lladin ar gyfer ysgolion. Dywed Gilbert Wakefield amdano ei fod yn ŵr o ddysg dillyn, geirwiredd ddiargyhoedd, a haelioni hynod. Ond y mae Thomas Seddons yn ei Characteristic Strictures, 1779, yn ei wawdio. Y mae darlun o Owen i'w weld yn Amgueddfa Warrington. Bu f. Ebrill 1807.

Llyfryddiaeth:

  • Asaph (Em. W.) a D.N.B., a'r awdurdodau a enwir yno;
  • N.L.W. MS. 9268;
  • B.M. Cat. P.B.;
  • J. H. Davies yn Trans. Cymm., 1922-3, atodiad (gyda darlun);
  • Letters of Goronwy Owen (gol. J. H. Davies), 67, 142-3.

Awdur:

John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth