OWEN, FOULKE (fl. 1686), bardd;
brodor o Nantglyn, sir Ddinbych. Nid oes dystiolaeth ym mha le y cafodd ei addysg er ei bod yn bosibl iddo fod yn Rhydychen, os oedd yn perthyn (gallasai fod yn ŵyr) i'r Foulk Owen hwnnw o sir Ddinbych a raddiodd yno yn 1584. Bu'n berchen ‘Llyfr Du Basing,’ llawysgrif bwysig o'r 14eg a'r 15fed ganrif a gedwir yn awr yn Ll.G.C. (N.L.W. MS. 7006), fel y tystiodd ef ei hun wrth dorri'i enw deirgwaith gyda'r dyddiad ‘1686’ ar y dail cyntaf. Ni chadwyd nemor ddim o'i farddoniaeth, onid ei waith ef yw'r cerddi di-enw a argraffwyd yn Cerddlyfr, yr hwn sydd yn cynnwys amryw garolau a dyrifiau o waith amryw awdwyr, a gyhoeddwyd ganddo, ac a argraffwyd yn y Theatr, Rhydychen, 1686. Copi anghyflawn yn unig y gwyddys i sicrwydd ei gadw hyd heddiw, ac y mae hwnnw yn Ll.G.C.
Awdur:
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch, Aberystwyth