Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, GEORGE (c.1552-1613), hanesydd, hynafiaethydd, ac achydd; g. yn Henllys, plwyf Nanhyfer, yng ngogledd sir Benfro, c. 1552, mab hynaf William Owen (c.1486-1574 [q.v.]), cyfreithiwr llwyddiannus a brynodd farwniaeth Cemais yn 1543 gan John Tuchet, arglwydd Audley, gan ddyfod yn arglwydd y farwniaeth. Ei fam oedd Elisabeth, merch Syr George Herbert, Abertawe, brawd William, iarll 1af Penfro o linach yr Herbertiaid (yr ail gread) [q.v.]. Gorffennodd ei addysg ffurfiol yn Bernard's Inn, lle derbyniwyd ef yn 1573, ond yn fuan wedyn ymsefydlodd yn hen gartref ei deulu yn Henllys, a dyfod yn un o'r ysgwieriaid mwyaf dylanwadol yng ngogledd sir Benfro. Priododd (1), Elisabeth, merch a chydaeres William Philipps, Pictwn [q.v.], yn 1571, a bu iddynt 11 o blant. Eu mab hynaf oedd Alban Owen (bu f. 1658), olynydd ei dad fel arglwydd Cemais, a siryf sir Benfro yn 1620 a 1643; (2), Ancred, merch William Obiled, Caerfyrddin, mam saith o'i blant ordderch a phump o'i blant cyfreithlon. Daeth dau o'u plant ordderch yn bur enwog — George Owen, ‘York Herald’ (gw. y D.N.B. arno ef; nid oes a wnelo ei yrfa â Chymru), ac Evan Owen (1599-1662), canghellor Tyddewi (1644-62). Aflonyddwyd llawer ar fywyd George Owen gan yr ymgyfreithio a fu rhyngddo ef a'i elynion, yn enwedig Syr John Perrot [q.v.] a William Warren, Trewern. Gorfu iddo ef a'i fam hefyd ymladd yn y llysoedd dros eu hawliau maenoraidd yn arglwyddiaeth Cemais. Cymerai ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus, a bu'n siryf sir Benfro yn 1587 a 1602. Fel dirprwy is-lyngesydd Penfro a Cheredigion, dirprwy-raglaw Penfro, ac ustus heddwch am nifer o flynyddoedd, bu'n weithgar ynglŷn â'r milisia a cheisiodd berswadio'r awdurdodau i amddiffyn Aberdaugleddau, oherwydd y perygl parhaus oddi wrth yr Ysbaenwyr. Penodwyd ef gan y Goron yn un o'r dirprwywyr a fu'n arolygu eiddo Syr John Perrot adeg ei ddifreinio yn 1592. Bu f. 26 Awst 1613 a chladdwyd ef yn Nanhyfer.

Dylanwadwyd yn drwm ar George Owen gan y diddordeb newydd mewn hanes a hynafiaethau a nodweddai oes Elisabeth yng Nghymru yn ogystal â Lloegr. Yr oedd yn hyddysg yng ngweithiau Humphrey Llwyd [q.v.], David Powel [q.v.], a Syr John Price [q.v.] a'u cyfoeswyr yn Lloegr, ac yr oedd hefyd ar delerau cyfeillgar â Lewys Dwnn [q.v.], Thomas Jones (‘Twm Sion Cati’) [q.v.], a William Camden, a hynafiaethwyr ac achyddion eraill y cyfnod; rhoes gymorth i William Camden. Ef oedd canolbwynt cylch bychan o sgrifenwyr yn sir Benfro, yn cynnwys George Owen Harry [q.v.], Robert Holland [q.v.], a George William Griffith [q.v.], a chafodd nifer o feirdd Cymreig yr oes nawdd a chroeso ganddo yn Henllys. Ei brif waith yw ‘The Description of Penbrockshire,’ a ymddengys fel pe bai'n seiliedig o ran ffurf ar Survey of Cornwall Richard Carew, 1602. Gorffennwyd y ‘Llyfr Cyntaf,’ hanes cyffredinol y sir, 18 Mai 1603; darn yn unig o'r ‘Ail Lyfr’ (a gyhoeddwyd yn Cylchgrawn Ll.G.C., v), sef hanes manwl y sir fesul plwyf, sydd ar gael, ac y mae'n amheus os gorffennodd Owen ei gynllun uchelgeisiol. Yr oedd eisoes wedi ysgrifennu ‘A Dialogue of the present Government of Wales’ yn 1594. Gweithiau eraill o'i eiddo yw ‘A Treatise of Lordshipps Marchers in Wales,’ ‘The Number of the Hundreds Castells, Parish Churches and ffayres … in all the Shiers of Wales,’ 1602, a elwir fel rheol ‘The Description of Wales,’ darn a elwir ‘A Catalogue and Genelogie of the Lordes of the Baronye of Kemes, Lordes of Kemes,’ ‘Proofes … that the Lordship of Kemes is a Lordshippe Marcher’ (yn ‘Baronia de Kemeys’ yn Arch. Camb., supplement, 1862), ‘Pembrock and Kemes’ (a gyhoeddwyd yn rhannol), a nifer o draethodau byrion ar arglwyddiaeth Cemais, ‘A Pamphelett containinge the description of Milford havon,’ … 1599, a darnau eraill ar yr un pwnc. Y mae copi o'r ‘Treatise of Marle,’ 1599, yn y ‘Vairdre Book’ ymhlith llawysgrifau Bronwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Casglodd hefyd goflyfr yn dwyn y teitl ‘The Taylors Cussion’ (gol. E. M. Prichard, 1906). Dan ei gyfarwyddyd ef y gwnaed y ‘Vairdre Book,’ sef casgliad cymysg o'i nodiadau hynafiaethol a chofnodion hanesyddol Cemais, a hefyd y ‘Register Book of Kemes’ (a gyhoeddwyd yn Arch. Camb., supplement, 1862). Yr oedd Owen yn achydd a herald medrus a diwyd. Dengys ei weithiau ar achyddiaeth, sydd gan mwyaf heb eu cyhoeddi, olion dylanwad y Coleg Arfau (Trans. Cymm., 1948, 378-82). Lluniodd hefyd fap o sir Benfro, 1602, a gyhoeddwyd gan Camden yn y 6ed argraffiad o'r Britannia, 1607.

Llyfryddiaeth:

  • Henry Owen, Pembs. (gol. Henry Owen yn Cymm. Rec. Series, i), lle y cyhoeddir y cwbl o weithiau George Owen a enwir uchod oni nodir i'r gwrthwyneb;
  • D.N.B.;
  • Cylch. Ll.G.C., i, 226-7; ii, 43-5; v, 265-85;
  • Cartae Baroniae de Kemes (Middle Hill Press, 1841);
  • Arch. Camb., 1862, 14-8, 226-7; 1867, 132-5;
  • Bronwydd MSS. yn Ll.G.C.

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

OWEN, GEORGE (Bywg., 661) Yn 1595 (nid 1599) y cyhoeddwyd ‘A Pamphelett containinge … Milford havon’.