OWEN, GRIFFITH (1647 - 1717), Crynwr a meddyg

Enw: Griffith Owen
Dyddiad geni: 1647
Dyddiad marw: 1717
Rhiant: Jane Owen (née Vaughan)
Rhiant: Robert Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr a meddyg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth
Awdur: Thomas Mardy Rees

mab Robert a Jane Owen, Dolserau, Dolgellau. Bu'n feddyg yn Lancashire am ysbaid cyn ymfudo, gyda'i rieni oedrannus, yn y llong Vine i Pennsylvania yn 1684, ac ymsefydlu ym Merion ('Welsh Tract'). Teithiodd lawer ymhlaid ei grefydd ac edmygid ef yn fawr gan William Penn. Dychwelodd i'r fam-wlad yn 1695 a'r flwyddyn honno cyhoeddodd lyfryn, Our Ancient Testimony, yn gwrthwynebu heresïau George Keith. Gwnaeth y ' Barbadoes distemper ' lawer o ddifrod nes i'r meddyg Owen a'i fab ddarganfod meddyginiaeth rhagddo. [Bu farw yn 1717, 'yn 70 oed'; gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 201.]

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.