Ganwyd 1 Ebrill 1869 ym Mhenyryrfa, Talysarn, Sir Gaernarfon, mab Hugh a Mary Owen, Brynycoed, Talsarn. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan ei dad. Dysgodd chwarae'r sielo a'r clarinet, ac ysgrifennu i'r gerddorfa. Trefnodd i'r gerddorfa am flynyddoedd ddarnau cerddorol cymanfaoedd canu sirol y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr yn Arfon a rhai yn y Deheudir ynghyda gŵyl gerddorol Eryri. Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac 'O, na byddai'n haf o hyd' yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw Llais y Durtur, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, a Perorydd yr Ysgol Sul. Bu farw 24 Mai 1930, a chladdwyd ym mynwent y dref, Caernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.