OWEN, HENRY (1844 - 1919), hynafiaethydd

Enw: Henry Owen
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1919
Rhiant: Martha Hall Owen
Rhiant: William Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Bertie George Charles

Ganwyd 12 Mawrth 1844, mab ieuengaf William Owen (1796-1879), U.H., D.L., ymgymerwr a saer dodrefn, Hwlffordd, a Withybush, a'i wraig Martha Hall Owen (1806-1885). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Corpus Christi, Rhydychen (1862-6), gan raddio'n B.A. yn 1866, B.C.L. yn 1869, a D.C.L. yn 1900. Cyfreithiwr ydoedd ac ymunodd â chwmni Jenkinson Owen, cyfreithwyr yn ninas Llundain, ac ymhen amser daeth yn berchen arno. Wedi iddo ymddiswyddo yn 1914 sefydlodd ei gartref yn Poyston ger Hwlffordd. Yn ei hamdden astudiai hanes a hynafiaethau, yn enwedig hanes a hynafiaethau Sir Benfro. Cyhoeddodd Gerald the Welshman, 1889 (arg. newydd 1904); Old Pembroke Families, 1902; Index to the Historical Tour through Pembrokeshire by R. Fenton, 1894; a A List of Printed Books treating of the County of Pembroke, 1897. Gyda chymorth ysgolheigion fel Egerton Phillimore a'r Dr. E. A. Lewis, golygodd Owen's Pembrokeshire, 1892[-1936], a Calendar of Public Records relating to Pembrokeshire, 1911-4. Bu'n cydweithio ag Edward Laws i gynhyrchu An Archaeological Survey of Pembrokeshire, 1896?-1907 (Tenby, 1908). Yr oedd yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Ddogfennau Cyhoeddus (1910) a'r Comisiwn Brenhinol ar Adeiladau Hynafol Cymru (1914). Bu'n drysorydd (1906-19) a chadeirydd (1915-9) Cymdeithas y Cymmrodorion, trysorydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1907-19), siryf Sir Benfro (1902), ac yn ustus heddwch ac is-gadeirydd brawdlys chwarterol sir Benfro. Yn 1916 cafodd radd D.Litt. ('er anrhydedd') Prifysgol Cymru. Yn ei ewyllys gadawodd ddetholiad o'i lyfrgell werthfawr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r gweddill i dref Hwlffordd, eithr ei gasgliad o lawysgrifau i gyd i'r Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 1341-1453 yn awr). Bu farw yn Poyston 14 Ebrill 1919.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.