Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, HUGH (1639-1700), pregethwr Piwritanaidd ac ‘apostol Meirion.’ Yr oedd o'r un teulu â'r barwn Lewis Owen [q.v.], y diwinydd Dr. John Owen [q.v.] yn berthynas pell iddo, a phrif bobl Meirionnydd ymhlith ei gydnabod a'i gyfeillion. Ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu, 1660), dechreuodd bregethu, ond distawyd ef, ag arfer gair Calamy, gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Ymunodd ag eglwys Biwritanaidd Wrecsam, ac etholwyd ef yn henuriad athrawus ynddi; yn 1668 priododd Martha Brown, merch un o'r aelodau pwysicaf, dirprwywr gynt o dan Ddeddf y Taeniad; a chyn 1672 yr oedd yn arolygu Anghydffurfwyr Annibynnol Meirion o'i bencadlys ym Mron-y-clydwr, plwyf Llanegryn, y rhan a ddigwyddodd i'w fam o diroedd Peniarth. Yn y flwyddyn honno, mis Mai, sicrhaodd drwydded o dan yr ‘Indulgence’ i bregethu yn ei dŷ ei hun; ym mis Medi galwyd heibio iddo gan Henry Maurice [q.v.] ar ei ffordd i Lŷn; yn gynnar yn 1676 galwodd James Owen [q.v.] ar ei daith at Annibynwyr Eifionydd, a phregethu'n ddirgel, mae'n lled debyg, i Hugh Owen a'r chwech Anghydffurfiwr arall a gyfrifwyd yn Llanegryn yn ‘census’ yr archesgob Sheldon. Ymron yr un amser, yr oedd Hugh Owen yn prysur lwybreiddio'r llyfrau a gyhoeddid gan Thomas Gouge a'r ‘Welsh Trust’ i fân gilfachau'r sir; daeth o leiaf 24 o'r llyfrau hyn, gweithiau Charles Edwards gan mwyaf, i blwyf Llanegryn yn unig. Caled oedd ei fyd, yn ôl y Nonconformist's Memorial, hyd ddyfod Deddf Goddefiad yn 1689, er bod dylanwad ei berthynasau yn ei gadw rhag y cosbau trymaf. O dan y ddeddf honno daeth rhyddid cymharol eang iddo, a phregethai i liaws o fân gynulleidfaoedd, Annibynwyr a Bedyddwyr rhydd-gymunol, yn siroedd Meirion a Threfaldwyn. Teithiau hir a phell, gydag ysbeidiau byrion rhyngddynt. Cofiodd pobl y ‘funds’ yn Llundain amdano drwy ganiatáu iddo am rai blynyddoedd £8 y flwyddyn o rodd at ei waith. Bu f. 15 Mawrth 1699/1700, esiampl berffaith ymron o Gristion cywir, pregethwr diwyd, a gŵr tringar, tymherus. Ymhlith ei blant yr oedd JOHN OWEN, ei fab, pregethwr fel ei dad, gŵr ieuanc addawol iawn a fu f. yn 1700, ei ferch Susannah, a briododd Edward Kenrick [q.v.] o Wrecsam (pregethwr eto, a arolygai Annibynwyr Meirion hyd ei farw yn 1741), a merch arall, Mary, nain y Parch. Hugh Farmer o Walthamstow a roddodd fanylion am Hugh Owen i'r Memorial. [Gw. ymhellach ‘Owen (Teulu), Peniarth.’]

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith, P.A.C.F., 323, 363;
  • Y Llenor, xvi, 171-8;
  • Calamy, Account, ii, 710;
  • Noncon. Mem., 1803, iii, 490-4;
  • Cal. S.P. Dom., E.B., 38A, 135;
  • Broadmead Records, Add. B., 515;
  • Salt MS. (Stafford), dalen 407;
  • Gordon MS., 92, 98;
  • R. T. Jenkins, Hen Gapel Llanuwchllyn, 33-47.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

OWEN, HUGH (Bywg., 663-4) Yn y llyfr. darllener Nonconformist's Memorial, fel yng nghorff yr erthygl.