OWEN, EDWARD HUMPHREY (1850-1904), Tŷ Coch , Caernarfon , casglwr llyfrau a llawysgrifau a hanesydd lleol;
g. 20 Rhagfyr 1850, mab John Owen, marsiandwr coed, etc., ac Elizabeth ei wraig. Yr oedd i E. H. Owen ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol ac yn enwedig yn hanes ei hynafiaid, ac arweiniodd hyn ef i gynnull llyfrgell werthfawr o lyfrau a llawysgrifau. Prynwyd y llyfrgell yn 1910 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chedwir hi ar ei phen ei hun ymhlith y ‘casgliadau sylfaenol.’ Ceir manylion am rai o'r cyfrolau printiedig yn adroddiad (Annual Report) y Llyfrgell Genedlaethol am 1909-10. Disgrifir y llawysgrifau, NLW MS. 815-68 yn awr, yn N.L.W. Handlist of MSS. i, 61-7; ymysg y llawysgrifau y mae saith gyfrol a fu yng nghasgliad Syr Richard Colt Hoare [q.v.], dwy gyfrol o gasgliad William Williams, Llandegai [q.v.], a chyfrolau a fu'n perthyn i Jonathan Jones, goruchwyliwr trethi'r Llywodraeth, Caernarfon. Ceir amryw gasgliadau o achau ac o farddoniaeth ymysg y llawysgrifau. Bu f. 22 Ebrill 1904, a chladdwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys Llanfair-is-gaer.
Llyfryddiaeth:
- J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enw. Sir Gaern.;
- C. and D. Herald, 29 Ebrill 1904;
- Llais Rhyddid, xix, 42-4;
- Bye–Gones, 27 Ebrill 1904;
- N.L.W. MS. 13701.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth