OWEN, JAMES (1654-1706), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd;
g. 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn (Brynmeini), Abernant, Caerfyrddin, yn ail fab i John Owen. Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell [q.v.] ac i'r llythyrwr James Howell [q.v.]; ei thref-tad hi oedd y Bryn, a berthynai i'w thaid Thomas Howell, ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch — llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn, Abernant, y ganed James Howell, oblegid yng Nghefn Bryn, Llangamarch, yr oedd Thomas Howell yn byw ar y pryd. Brodyr i James Owen oedd D. J. Owen (gw. dan Owen, Jeremy) a Charles Owen [q.v.]; troes y naw plentyn at Ymneilltuaeth, serch mai Cafalîr, a ddioddefodd hefyd dros ei frenin, oedd eu tad. Addysgwyd James Owen yn ysgol y frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin; prin y gall y D.N.B. fod yn gywir pan ddywed iddo fod dan addysg y Crynwr James Picton, oblegid ymadawodd hwnnw â Dinbych-y-pysgod yn 1658, pan nad oedd James Owen ond 4 oed, ac yng ngharchar y bu wedyn gan mwyaf. Ond tystiodd James Owen ei hun wrth Calamy iddo fod dan addysg Samuel Jones [q.v.] ym Mrynllywarch yn 1672-3; bu wedyn dan hyfforddiant Stephen Hughes [q.v.] yn Abertawe. Anogwyd ef gan Henry Maurice [q.v.] i bregethu yng Ngogledd Cymru; preswyliai dros dro ym Modfel, ac ar 23 Ebrill 1676 achwynwyd arno am gadw moddion anghyfreithlon yn Llangybi Eifionydd. Dihangodd o Lŷn at Hugh Owen [q.v.], Bronclydwr, a bu'n cynorthwyo hwnnw (ef, yn 1700, a bregethodd bregeth angladdol Hugh Owen). Fis Tachwedd 1676 penodwyd ef yn gaplan i Mrs. Baker, yn Swinney ger Croesoswallt, a chymerth ofal y gynulleidfa Ymneilltuol yn y dref; yno (27 Medi 1681) y bu ef a Philip Henry [q.v.] yn dadlau â'r esgob William Lloyd [q.v.]. Yn 1690, agorodd academi yr oedd clod mawr iddi; ond ni roes heibio ei bregethu teithiol, oblegid pregethai'n fisol yn Rhuthyn, ac wedyn yn Ninbych, Wrecsam, a Llanfyllin. Ond yn 1700 symudodd i Amwythig, yn gydweinidog â Francis Tallents, a throsglwyddodd ei academi hefyd i'r dref honno — gw. y disgrifiadau ohoni yn ei gofiant ac yn McLachlan, English Education under the Test Acts, 81-2. Bu f. 8 Ebrill 1706. Bu'n briod deirgwaith. Er mai fel Annibynnwr y rhestrir ef, yr oedd ynddo ogwydd at Bresbyteriaeth; yn yr un modd, dilynodd Richard Baxter yn ei olygiadau diwinyddol, isel-Galfinaidd a chymedrol. Dengys ei yrfa ei fod yn Ymneilltuwr ymroddedig, ond yma eto ni wrthodai gymrodeddu lle y gellid heb aberthu egwyddor — dau o'i weithiau mwyaf hysbys yw Moderation a Virtue 1703, a Moderation still a Virtue, 1704, sy'n amddiffyn Ymneilltuwyr a gymunai'n achlysurol yn y llannau (‘occasional conformists’) er mwyn gallu dal swyddau cyhoeddus. Ceir rhestr o'i weithiau yn y D.N.B. Ni chollodd ei gyswllt â Chymru chwaith. Ef a roes i Edmund Calamy fanylion am weinidogion Ymneilltuol Cymru. Cyhoeddodd hefyd amryw lyfrau Cymraeg: Trugaredd a Barn, 1687; Bedydd Plant o'r Nefoedd, 1693, ateb i'r Bedyddiwr Benjamin Keach; cyfieithiad o Gatecism Byrraf y Gymanfa — sef cymanfa Westminster — 1701; a Hymnau Scrythurol, 1705 ‐ cynhwyswyd rhai o'r emynau hyn gan Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowland yn eu casgliadau hwythau.
Llyfryddiaeth:
- Charles Owen, Some Account of the Life and Writings of James Owen, 1709;
- Alexander Gordon yn y D.N.B. ac yn Gordon MS. (mynegai);
- T. Richards, Religious Developments, Wales under the Indulgence, a Wales under the Penal Code (mynegeion);
- W. Rowlands, Llyfr. y Cym. dan y blynyddoedd a nodwyd (cymysglyd);
- Hist. Carms., ii, 415-6;
- McLachlan (uchod).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.