Pan fu f. D. J. Owen (7 Hydref 1710), urddwyd ei fab Jeremy, gŵr ieuanc o gryn allu, i'w ddilyn, yn 1711. Anhysbys yw amser ei eni. Bu yn ysgol ei ewythr yn Amwythig, yn gyfoed ac yn gyfaill i Thomas Perrot(t) [q.v.]. Plannodd ei ewythr ynddo nid yn unig ysgolheictod glasurol dda ond hefyd y golygiadau ‘cymedrol’ a gysylltir â'i enw ef ei hun. Torrodd anghydfod o'r newydd allan yn Henllan, ac ymadawodd haid arall i Ryd-y-ceisiaid, dan arweiniad Mathias Maurice [q.v.] a Henry Palmer [q.v.]. Wedyn (tua 1715) bu raid i Jeremy Owen ymddiswyddo o'i ofalaeth, yn herwydd rhyw gam-ymarweddiad, anhysbys ei natur ond a addefir ganddo ef ei hunan. Fe'i ceir yn cadw ysgol yn Llundain yn 1718; bu'n weinidog yn Petworth (1721-6), Barnet (1726-32), a Princes Risborough (1733-44). Aeth wedyn i America (T. Rees, Hist. Prot. Noncon., ail arg., 294), lle y bu f., ni wyddys pa bryd.
Yn y cyfamser yr oedd Byr Hanes Mathias Maurice, 1727, o helyntion Henllan wedi cyffroi Jeremy Owen i gyhoeddi ateb, Golwg ar y Beiau sydd yn yr Hanes a Brintiwyd ynghylch Pedair i Bump Mlynedd i nawr, ym mherthynas i'r Rhwygiad a wnaethpwyd yn Eglwys Henllan yn y Blynyddoedd 1707, 1708, 1709 (Caerfyrddin, 1732/3; ail argraffiad, Gwasg Prifysgol Cymru, 1950), pamffled wedi ei sgrifennu mewn Cymraeg cadarn o'r rhywiocaf, a chyda medr dadleuol cwbl ddidrugaredd. Nodir gweithiau eraill yr awdur yn Llyfryddiaeth y Cymry, dan 1711 a 1713; ond anghywir oedd priodoli yno iddo bregeth angladdol ar ei ewythr Charles Owen, dan 1746, a gwaith arall yn yr un flwyddyn. Awdur y rheini oedd JOSIAH OWEN (1711-1755); gweler H. Egl. Ann., iii, 360. Y mae ysgrif ar hwnnw yn y D.N.B.; yn sicr, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, yr oedd yntau'n un o deulu'r Bryn. Fe allai fod yn fab arall i D. J. Owen (mab, os felly, a aned wedi marw ei dad), h.y. yn frawd i Jeremy, neu o bosibl yn fab i Evan John Owen o blwyf Cyffig, y tybir (H. Egl. Ann., iii, 338) ei fod yn un o feibion y Bryn.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.