Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN, JOHN (1564?-1628?), epigramydd; mab Thomas Owen, Plas Du, Llanarmon, sir Gaernarfon (gw. yr ysgrif ar y teulu). Yr oedd yn ‘ysgolor’ yng Ngholeg Winchester yn 1577, ymaelododd yn New College, Rhydychen, yn 1582, a daeth yn ‘jurist fellow’ o'r coleg yn 1584; cymerodd radd B.C.L. yn 1590. Bu'n athro ysgol yn Trelech, sir Fynwy, hyd 1595, pryd y daeth yn bennaeth ysgol Warwick. Er i'w ddeg llyfr o epigramau gael eu cyhoeddi rhwng 1606 a 1613 ni wyddys ddim am ei yrfa wedi 1595. Efallai iddo ymddeol o'i swydd a byw ar ei noddwyr; efallai, serch hynny, iddo wasnaethu fel pennaeth yr ysgol yn Warwick hyd flwyddyn ei farw (1628?), gan na enwir neb arall yn brifathro'r ysgol hyd 1628?; gellir, felly, amau mynegiad Anthony Wood i Owen f. yn 1622. Ymysg ei noddwyr yr oedd Lady Arabella Stuart, tywysog Cymru, a Robert Cecil. Bu gwerthu mawr yn eu dydd ar lyfrau epigramau John Owen; ailargraffwyd y casgliad cyntaf (o dri llyfr) ymhen y mis. Serch eu dodi ar yr ‘Index Expurgatorius’ yr oeddent yn fwy poblogaidd ar y Cyfandir nag ym Mhrydain. Bu iddynt ddylanwad arbennig ar Almaenwyr a ysgrifennai epigramau. Cyfieithwyd hwy yn Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg.

Llyfryddiaeth:

  • Wood, Athen. Oxon., i, 400-1;
  • Trans. Cymm., 1940, 130-43;
  • Myth Stories of Greece and Rome, x (1941), 65-73;
  • E. Urbanus, ‘Owenus u.d. deutschen Epigrammatiker,’ yn Litterarhist. Forsch., heft. xi, 1900.

Awdur:

John Henr