OWEN, JOHN (bu f. 1759); bardd, telynor, llythyrwr,
nai i Forrisiaid Môn (mab i'w chwaer Ellen a'i phriod Owen Davies); g., yn ôl pob tebyg, yng Nghaergybi yn ystod tridegau cynnar y 18fed g. (y mae'r cofnodion plwyfol cyn 1737 ar goll). Pan oedd yn fachgen ifanc aeth i fyw at Lewis Morris yng Ngheredigion a bu'n cynorthwyo ei ewythr yno, ac wedi hynny yn Llundain, gyda'r ymgymeriadau diwydiannol a'i helbulon cyfreithiol. Eithr oerodd y berthynas rhwng y ddau a thra bu yn Llundain cyfeillachodd John Owen â Richard Morris gan ei gynorthwyo i baratoi gwaith Goronwy Owen ar gyfer y wasg. Ceir tua 30 o lythyrau o'i waith yn ogystal â pheth barddoniaeth ar fesur y cywydd. Yn 1758 cafodd swydd fel clerc ar long ryfel a bu f. o glefyd yn Gibraltar yng Ngorffennaf 1759.
Llyfryddiaeth:
- Morris Letters ac Add. Morris Letters (mynegeion gan Hugh Owen);
- Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw (gol. G. J. Williams) (yn atodiad 1943 i Cylch. Ll.G.C.);
- Llên Cymru, i, 60.
Awdur:
Yr Athro Alfred Owen Hughes Jarman, M.A., (1911-98), Caerdydd