OWEN, JOHN (1788 - 1867), clerigwr ac awdur

Enw: John Owen
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1867
Rhiant: Elinor Owen
Rhiant: Owen Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Daniel Williams

Ganwyd yn 1788 yn fab Owen ac Elinor Owen, Cilirwysg, Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi - y rhieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cymerth dau o'r meibion urddau eglwysig (sef John a David Owen). Aeth John i ysgol Ystrad Meurig, i'w addysgu gan John Williams ('Yr hen Syr'). Ordeiniwyd ef yn Llanelwy gan yr esgob Cleaver; diacon 1811, offeiriad 1812. Bu'n gurad i ddechrau yn Hirnant 1811-3. Oddi yno aeth i S. Martin, Leicester. Wedi hynny bu'n gurad yn Thrussington, yn yr un sir, a'i benodi yn ficer yno yn 1845, a deon gwlad yn 1853. Yno bellach yr arhosodd hyd ei gladdu ar 31 Gorffennaf 1867. Ysgrifennodd Coffhad am Daniel Rowlands Llangeitho, 1839; A Memoir of Daniel Rowlands, 1840; Memoir of Thomas Jones of Creaton, 1851; a llyfrau eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.