OWENS, JOHN (1790 - 1846), sefydlydd 'Owens College,' a dyfodd yn Brifysgol Manceinion

Enw: John Owens
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1846
Rhiant: Sarah Owens (née Humphreys)
Rhiant: Owen Owens
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sefydlydd 'Owens College,' a dyfodd yn Brifysgol Manceinion
Maes gweithgaredd: Addysg; Dyngarwch
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Manceinion yn 1790, a bu farw yno 29 Gorffennaf 1846, yn 55 oed, yn ddibriod, gan adael bron £100,000 at godi'r coleg. Bu am beth amser yn bartner yng nghwmni Samuel Faulkner & Co. Dyn tawedog digymdeithas oedd ef. Yr oedd ei rieni'n Gymry - ganwyd ei dad, OWEN OWENS (1764 - 1844) yn Nhreffynnon, a'i fam Sarah (Humphreys) - bu hi farw yn 1816 - yn yr un ardal. Aeth Owen Owens yn fore i Fanceinion; yr oedd yn ddyn deallus a darllengar, a daeth yn ei flaen yn y byd. Sylfaenodd fusnes fawr fel 'furrier,' â changhennau yn Llundain a mannau eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.