OWEN, JOHN (1833 - 1896), clerigwr a llenor

Enw: John Owen
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mhenfro yn 1833. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, ac yn y blynyddoedd 1858-9 bu'n gynorthwywr i Rowland Williams yn y dosbarthiadau Hebraeg yno. Bu'n gurad yn Alvedistone (Wilts), 1859-60, a Bowerchalke (Wilts), 1860-9; ond yn 1869 penodwyd ef yn rheithor East Anstey, Dulverton (Dyfneint), ac yno y bu weddill ei oes. Yn y neilltuedd hwn, darllenodd yn helaeth, a chasglodd lyfrgell odidog. Ymddiddorai'n bennaf mewn rhyddymofyniad, a alwai ef yn 'skepticism,' a chyhoeddodd res o lyfrau. Dug allan yn 1885 argraffiad o Scepsis Scientifica Glanvill. Cyhoeddodd yn 1881 Evenings with the Skeptics, yn 1892 The Skeptics of the Italian Renaissance, yn 1893 The Skeptics of the French Renaissance, ac yn 1896 The Five Great Skeptical Dramas of History; a sgrifennai'n fynych i'r Edinburgh Review a'r Academy. Bu farw yn East Anstey 6 Chwefror 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.