OWEN, ROBERT (1820 - 1902), clerigwr 'Anglo-Catholig'

Enw: Robert Owen
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1902
Rhiant: David Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr 'Anglo-Catholig'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1820 yn drydydd mab i David Owen, Dolgellau; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 22 Tachwedd 1838, 'yn 18 oed'; graddiodd yn 1842 (B.D. 1852); bu'n gymrawd o'i goleg, 1845-64, a llanwodd amryw swyddau yno; a bu'n arholwr i'r brifysgol, yn y gyfraith, yn 1859. Urddwyd ef gan Bethell, esgob Bangor, yn 1843, ond ni fynnai unrhyw fywoliaeth eglwysig. Yr oedd yn uchel-Eglwyswr pendant iawn, a chyhoeddodd An Apology for the High Church Movement on Liberal Principles, 1851; The Pilgrimage to Rome (prydyddiaeth), 1863; a nifer o lyfrau eraill (ar y seintiau, y gyfraith ganon, a phynciau cyffelyb); un yn unig sydd a fynno â Chymru, sef The Kymry, their Origin, History, and International Relations, 1891. Cefnogai ddatgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys yng Nghymru, modd y gallai hi fynnu ei rhyddid a chadw ei 'chatholigrwydd.' Bu'n byw flynyddoedd lawer yn Vron y Graig, Abermaw (yr oedd ganddo stad yn y cyffiniau), a bu farw yno 6 Ebrill 1902, 'yn 82 oed.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.