OWEN, IFAN (IEUAN) TUDUR (bu f. 1625?), bardd a bonheddwr
yn byw yn Dugoed, plwyf Mallwyd. (Bedyddiwyd plant iddo yn eglwys Mallwyd, 1575-84, a chladdwyd ei wraig, Elizabeth ych Thomas, ym Mallwyd, fis Hydref 1609.) Dywed William Maurice, Cefnybraich, Llansilin, iddo ysgrifennu rhan o Cwrtmawr MS. 5. Ceir peth o'i waith yn y llawysgrifau (isod). Profwyd ei ewyllys yn Llanelwy yn 1625.
Llyfryddiaeth:
- Cardiff MSS. 19 (194), 47 (68), 48 (98), 64 (126, 358. 620);
- Cwrtmawr MS. 5 (70, 447, 450);
- Mostyn MS. 144 (544);
- Llanst. MS. 156 (118, 181);
- Pen. MSS. (Ll.G.C.).
Awdur:
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor