OWEN, WILLIAM (1750 - 1830), clerigwr efengylaidd

Enw: William Owen
Dyddiad geni: 1750
Dyddiad marw: 1830
Rhiant: Joseph Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Daniel Williams

Olynydd Thomas Charles o'r Bala yn Sparkford a Milborne Port, Gwlad yr Haf; mab hynaf Joseph Owen, rhydd-ddeiliad y Fron Goch, Nanhyfer, Sir Benfro; ganwyd yn 1750. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ar 15 Awst 1773 ac yn offeiriad ar 6 Awst 1775. Bu'n gurad yn ei gartref, sef Nanhyfer, 1775-9, yn Sparkford, 1783-5, ac yn Milborne Port, 1785-91, gan ddyfod yn gurad 'parhaol' yn Milborne Port yn nes ymlaen. Rhoddes esgob Henffordd iddo ficeriaeth Almeley 11 Rhagfyr 1816 ac at hynny cafodd reithoraeth Ryme Intrinsica, Sherborne, 6 Mawrth 1823, dan nawddogaeth tywysog Cymru (y brenin Siôr IV wedi hynny). Ymwelai â Sir Benfro 'n fynych, a daeth y Fron Goch yn eiddo iddo ar farw ei dad. Bu'n gefnogydd eiddgar i'r genhadaeth dramor (y ' Church Missionary Society'). Bu farw 4 Chwefror 1830 a chladdwyd yn Sherborne.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.