OWEN, WILLIAM ('Gwilym Ddu Glan Hafren '; 1788 - 1838)

Enw: William Owen
Ffugenw: Gwilym Ddu Glan Hafren
Dyddiad geni: 1788
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn 1788 ym Mrynhafod, Clynnog, Sir Gaernarfon. Dug 'Eben Fardd' dystiolaeth iddo fel 'ysgolhaig gwych, bardd, a cherddor godidog.' Tua'r flwyddyn 1815 aeth i'r Trallwng i gadw ysgol, ac yn ddiweddarach i'r Drefnewydd. Ysgrifennodd i'r gwahanol gylchgronau dan yr enw ' Gwilym Ddu Glan Hafren,' a bu'n pregethu gyda'r Methodistiaid. Yn 1828 dug allan Y Caniedydd Crefyddol, yn cynnwys eglurhad helaeth ar holl egwyddor cerddoriaeth grefyddol, etc., gyda chasgliad cryno o donau. Cyflwynir y llyfr i'r Parch. John Jenkins, ficer Ceri, sir Drefaldwyn. Llwyddodd i gael dwy fil o danysgrifwyr i'r llyfr, a bu o wasanaeth i rai a oedd yn dechrau dysgu. Bu farw 8 Hydref 1838 yn y Drefnewydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.