PAGE, JOHN (‘Ioan Glan Dyfrdwy ’; 1830?-1852), bardd
o dras (Seisnig) anadnabyddus, a fagwyd yn y Bala. Yr oedd yn un o bedwar sylfaenydd ‘Cymdeithas Lenyddol Penllyn’ (gw. dan Peter, John). Bu f. 17 Mehefin 1852. Cyhoeddwyd llyfryn o'i waith, Briallu Dyfrdwy, yn y Bala, 1852.
Llyfryddiaeth:
- Adgofion Andronicus (J. W. Jones);
- rhoddir dyddiad ei farw, a'i oedran, gan ‘Ioan Pedr,’ yn N.L.W. MS. 2612, gydag ychydig o'i waith.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.