Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PAINTER (TEULU), argraffwyr yn Wrecsam .

Prynwyd busnes argraffu a chyhoeddi Marsh (gw. Marsh , Richard ) yn Wrecsam gan JOHN PAINTER cyn diwedd 1795 . Priododd JOHN PAINTER , 3 Hydref 1798 , â Catherine , merch Hugh Burton , a gadwai fasnachdy yn High Street , Wrecsam . Dilynwyd John Painter , y tad, gan ei fab hynaf, yntau yn John Painter , a fu f. 15 Hydref 1833 , yn 32 oed; a dilynwyd yntau gan ei frawd, THOMAS PAINTER , a werthodd y busnes i Railton Potter yn 1855 ac a fu f. 16 Ionawr 1889 yn 82 oed. Yr oedd y tri aelod o'r teulu hwn yn argraffwyr medrus. Y tad a argraffodd Philip Yorke , Royal Tribes of Wales , 1799 , ac argraffiad Edward Edwards o Browne Willis , Survey of the Cathedral Church of St. Asaph , 1801 . Y gwaith mwyaf a argraffwyd yn y swyddfa oedd Beibl Samuel Clark , wedi ei gyfieithu yn Gymraeg gan John Humphreys , 1813 . Rhoddir ychwaneg fanylion personol am Thomas Painter gan Ifano Jones yn ei History of Printing and Printers in Wales ; e.e. bu'n faer Wrecsam yn 1859 ac yr oedd yn gyfarwyddwr mewn tua thri o gwmnïau lleol.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54