Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PAMPLIN, WILLIAM (1806-1899), llysieuydd; g. yn Chelsea, 5 Awst 1806. Cyhoeddodd yn 1827 restr o blanhigion prin Battersea a Clapham; sgrifennodd lawer i'r Magazine of Natural History; ymgymerth yn 1855 â golygyddiaeth The Phytologist, a phriododd â Caroline Hunneman, merch perchennog y cylchgrawn. Ar amryw ymweliadau â Gogledd Cymru, ymserchodd yn Llandderfel, ac wedi ymddeol o'i fusnes fel llyfrwerthwr a chyhoeddwr yn 1864, cododd dŷ yno (Pen-y-llan), a bu fyw yno weddill ei oes, gan astudio llysieueg ac adar y fro. Bu f. ei wraig yn 1876, ac yn 1878 priododd yntau'r eilwaith â Margaret Parry o Flaen-y-cwm, Bethel (Llandderfel). Bu f. 9 Medi 1899, a chladdwyd yn Llandderfel.

Llyfryddiaeth:

  • Yr Haul, Tachwedd a Rhagfyr 1939;
  • Jnl. of Botany, Rhagfyr 1899, ond nid yn Wandsworth fel y dywedir yno, y ganed ef;
  • Cylch. Cymd. Hanes Sir Feirionydd, I, i, 1949, a I, ii, 1950 — ond nid yn Wandsworth, fel y dywed y ddau ddiwethaf, y ganed ef.
  • Y mae rhai o'i lawysgrifau yn N.L.W., ac eraill yng Ngholeg y Gogledd.

Awdur:

Evan Roberts, M.B.E., (1877-1958), Llandderfel