Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARK neu PARKES, JAMES (1636-1696), Crynwr; naill ai fe'i g. yng nghyffiniau'r Trallwng neu Wrecsam, yn 1636, neu o leiaf fe fu'n byw yno am gyfnod ac yn un o Annibynwyr y naill le neu'r llall — Wrecsam, efallai, sy'n fwyaf tebyg. Troes at y Crynwyr, a theithiodd yn eu gwasanaeth, ym Mhrydain ac ar y Cyfandir. Ymwelodd â Chymru fis Mawrth 1662/3, ac yn Wrecsam (9 Mawrth) sgrifennodd A Lamentation and Warning … to all the Professors in North Wales, especially to those about Wrexham … and Welsh-Pool, … whom formerly I have known and walked with in a fellowship and worship — apêl at ei gyd-Ymneilltuwyr gynt i droi at y goleuni. Nid ymddengys hwn yn y rhestr o'i weithiau (17 ohonynt), ac ni chyhoeddodd ef mohono. Eithr gadawodd gopi ohono yn y Cloddiau Cochion, ac argraffwyd ef yn ei grynswth gan Richard Davies [q.v.], y Crynwr, yn ei hunangofiant. Bu f. yn Southwark, 11 neu 12 Tachwedd 1696, yn 60 oed. Y mae ysgrif arno, gyda rhestr o'i weithiau, yn y D.N.B.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.