Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARKER, JOHN (1798-1860), clerigwr ac arlunydd; g. 3 Hydref 1798, ail fab Thomas Netherton Parker, Sweeney Hall, gerllaw Croesoswallt, a'i wraig, Sarah Browne (aeres ei hewythr, Edward Browne, Sweeney Hall). Cafodd ei addysg yn ysgol Eton a Choleg Oriel, Rhydychen (B.A. 1820, M.A. 1825). Bu'n gurad Moreton Chapel, Croesoswallt, am gyfnod byr cyn cael rheithoraeth Llanmerewig, sir Drefaldwyn, o'r lle y symudodd, yn 1844, i ficeriaeth Llanyblodwel, sir Amwythig. Bu f. 31 Awst 1860 yn Llanyblodwel, a'i gladdu ym mynwent yr eglwys yno. Gwnaeth lawer o gyfnewidiadau ac o atgyweiriadau yn y naill eglwys a'r llall, yn ôl ei gynlluniau ei hun, ac i raddau helaeth ar ei gost ei hun, gan adeiladu tŵr a phorth yn Llanmerewig a thŵr yn Llanyblodwel; adeiladodd ysgol ac ysgoldy yn Llanyblodwel. Etifeddodd stad Sweeney yn 1854 ar f. ei dad (a oedd yn gynlluniwr tai ac yn awdur llyfrau), a phan fu John Parker ei hunan f. yn 1860 aeth y stad i feddiant ei chwaer, Mary Parker (gw. isod).

Nid fel offeiriad plwyfi yng Nghymru a'r goror nac fel perchennog stad y cofir am John Parker bellach, eithr fel arlunydd celfydd, yn enwedig am ei waith mewn dyfr-liw. Darlunio golygfeydd natur, eglwysi a'r hyn a oedd ynddynt, yn enwedig eglwysi ‘Gothig,’ a chestyll, oedd ei brif ddiddordebau. Ymwelodd ag ardal y Wyddfa ddeng mlynedd yn olynol; darluniodd sgriniau croglofftydd lle bynnag y ceid hwynt yn eglwysi Cymru a hefyd y prif fathau o fedyddfeini. Y mae dros fil o ddarluniau o'i waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heblaw y rhai sydd yn nhai rhai o ddisgynyddion ei chwaer. Ymwelodd â Lloegr, Iwerddon, a chyfandir Ewrop hefyd gan ddarlunio pob math o eglwysi ‘Gothig,’ etc.; gwnaeth hefyd lu o ddarluniau blodau a phlanhigion. Cyhoeddodd, 1831, The Passengers: containing the Celtic Annals.



Yr oedd ei chwaer, MARY PARKER (1799-1864), a ddaeth yn LADY LEIGHTON yn 1832 (ar ei phriodas â Syr Baldwin Leighton, 7fed barwnig, Loton, sir Amwythig), yn arlunydd talentog hefyd. Ceir esiamplau o'i gwaith hithau yn y Llyfrgell Genedlaethol, rhai ohonynt yn gyffelyb i waith ei brawd a rhai ohonynt yn portreadu personau. Hyhi (yn unig) a lwyddodd i wneuthur darlun o'r ddwy ‘Ladies of Llangollen’; dyma'r darlun adnabyddus y gwnaethpwyd copïau lithograff ohono'n ddiweddarach (y mae darlun gwaelach ar gael, wedi ei gopïo heb ganiatâd oddi ar lun Mary Parker; am yr hanes gw. Cylch. Ll.G.C., v, 207-8).

Llyfryddiaeth:

  • Cylch. Ll.G.C., ii, 87-8; iv, 90-1; v, 69,207-8;
  • catalogau Ll.G.C. o arddangosfeydd darluniau John Parker;
  • Arch. Camb., III, ii, vi, vii, xi; IV, ix.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth