Olrheiniwyd troeon gyrfa Blanche Parry'n fanwl — a chwalu llawer chwedl amdani — gan C. A. Bradford (isod). Y mae'n bur sicr mai ‘Lady Herbert of Troy,’ ei chares, a'i dug gyntaf i'r llys brenhinol. Dywed hi ei hunan iddi weld Elisabeth ‘yn ei chrud,’ ond yr oedd y dywysoges yn 3 oed (1536) cyn i Blanche ddyfod yn weinyddes swyddogol iddi. Yn 1558, dyrchafwyd hi'n ‘ail weinyddes,’ ac yn 1565 yn ‘brif weinyddes’; ond ni chafodd erioed yr un o'r swyddau ‘pendefigaidd’ yn y llys. Eithr yr oedd ei swydd yn broffidiol iawn — cyflog, cynhaliaeth anrhydeddus, rhoddion, grantiau o freiniau ac yn wir o stadau, cymynroddion diolchgar am gymwynasau. Digwydd ei henw'n hynod fynych yn y recordiau swyddogol, a chyfeirir ati yn llenyddiaeth y cyfnod. Tua diwedd ei hoes aeth bron yn ddall. Bu f., yn ddi-briod, 12 Chwefror 1589/90. Bwriadai unwaith gael ei chladdu yn Bacton, a chododd feddrod yno; ond newidiodd ei meddwl, ac yn S. Margaret's, Westminster, y claddwyd hi — gwelir ei beddrod yno heddiw. Y mae stori gymysglyd ddarfod claddu ei hymysgaroedd (ei chalon, bryd arall) yn y beddrod sydd i'w weld yn Bacton. Yn 1811 mynnodd Mrs. Burton, priod ficer Atcham gerllaw Amwythig a disgynnydd o deulu Newcourt, gael symud ffenestr liw goffa Miles ap Harri o Bacton i Atcham, a gosod yno hefyd ffenestr goffa i Blanche Parry. Gadawodd Blanche gymynroddion ac elusennau helaeth. Gwyddys mai ceidwadol oedd ei golygiadau crefyddol, a thuedda Bradford i farnu ei bod hi o'r Hen Ffydd.
Daw Blanche Parry i mewn, ar ddamwain megis, i hanes sgrifennu hanes Cymru. Yr oedd Syr Edward Stradling [q.v.], ar awgrym a roes Syr William Cecil iddo, wedi sgrifennu traethawd ar goncwest Normanaidd Morgannwg, a'i anfon i Cecil. Y mae'n amlwg i Cecil ei roi i Blanche Parry — efallai i'r frenhines, oblegid Blanche oedd ceidwad ei llyfrau. Pan oedd David Powel [q.v.], ficer Rhiwabon, yn Llundain yn trefnu (ond odid) i argraffu ei lyfr, rhoes Blanche y traethawd iddo ef — disgrifia Powel ‘the right worshipfull Mistres Blanch Parry’ fel gwraig hynod dda ei chalon at Gymru a hynod, barod i hyrwyddo llwydd ei henwlad. Argraffodd yntau'r traethawd yn ei grynswth yn ei Historie of Cambria, 1584 — gw. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 197-9.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.