Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY, DAVID (1760-1821), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; g. 13 Chwefror 1760 yn Llwyndiriad, Caeo, sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc a dechreuodd bregethu yn 1778. Bu'n efrydydd am dymor byr yn Nhrefeca. Priododd â Margaret Evans, Llofft-wen, Llanwrtyd, yn 1784, a symudodd i fyw i'r Gilfach, Llanwrtyd, c. 1797-8. Yr oedd yn un o'r fintai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Yr oedd yn bregethwr nodedig iawn a gwasnaethai'n aml yn y sasiynau. Bu f. 27 Ebrill 1821, a chladdwyd ef y tu mewn i gapel Rhydybere.

Llyfryddiaeth:

  • Drys., 1834, 65;
  • Y Cylchgrawn, 1884, 86;
  • Hanes Meth. Cymru, iii, 335;
  • Joseph Evans, Biog. Dict., 234;
  • J.M. Jones, Ordeiniad 1811, 147.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe