PARRY, DAVID (1794 - 1877), clerigwr

Enw: David Parry
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1877
Priod: Mary Parry (née Herbert)
Rhiant: Dorothy Parry
Rhiant: David Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn 1794 yn Llan-gan, ger yr Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry a Dorothy ei wraig. Cafodd ei addysg yn Ystrad Meurig ac ysgol ramadeg Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yn ddiacon, Mawrth 1818, gan yr esgob Burgess o Dyddewi. Trwyddedwyd ef yn gurad i blwyf Crinow, ger Arberth, ac yn Ebrill 1819 i Landisilio ger Clunderwen hefyd. Derbyniodd urddau offeiriad ym Mehefin 1819, ac yn Nhachwedd 1821 codwyd ef yn ficer Llywel, ger Trecastell, sir Frycheiniog; bu yno am dros 40 mlynedd. Ym Mai 1862 penodwyd ef yn ficer Defynnog ac Ystradfellte, a bu farw yn ei swydd yn Defynnog, 22 Hydref 1877. Yno mae ei fedd a bedd ei wraig Mary, merch David Herbert. Yr oedd Parry yn offeiriad plwyf ymroddgar ac un o bregethwyr gorau ei gyfnod. Rhoddwyd iddo'r enw 'Y Gloch Arian.' Casglwyd arian er cof amdano i sefydlu ysgoloriaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac y mae darlun ohono yn festri eglwys Defynnog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.