PARRY, DAVID (‘Dewi Moelwyn ’; 1835-1870), gweinidog a bardd;
g. yn 1835 yn fab John Parry, Ffestiniog, sir Feirionnydd. Derbyniodd ryw gymaint o addysg fel bachgen, ac yn 1850, pan nad oedd ond 15 oed, enillodd y wobr gyntaf am gywydd ar ‘Yr Argraffwasg’ yn eisteddfod Ffestiniog. Derbyniwyd ef yn aelod o gapel Saron, Ffestiniog, ond symudodd i Gaernarfon yn 1856. Yno ymaelododd yng nghapel Pendref, ac yn 1857 dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i Goleg (A.) y Bala yn 1861 fel efrydydd ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol (Y Dysgedydd, 1861, 439), ac ordeiniwyd ef yn weinidog yng nghapel Adulam, Tredegar, sir Fynwy, ddydd Nadolig 1863. Ymddiswyddodd yn 1867, ac ymfudodd i America. Ymgymerodd â gweinidogaeth capel yr Annibynwyr yn Providence, Scranton, talaith Pennsylvania, a llafuriodd yno o Fedi 1867 hyd ei f. 8 Medi 1870. Ychydig cyn ei farw, priododd â Kate Williams o Bradford, Pennsylvania. Ef oedd golygydd barddoniaeth y newyddiadur Cymraeg Baner America a gychwynnwyd yn Hyde Park, Pennsylvania, yn 1868.
Llyfryddiaeth:
- D. Jones, Welsh Congregationalism in Pennsylvania 307-8;
- H.E.A.C., i, 213, 482; iii, 242;
- G. J. Williams, Hanes Plwyf Ffestiniog, 227;
- T. M. Jones, Llen. fy Ngwlad, 206;
- Y Dysgedydd, 1870, 322-3;
- Thomas, Hanes Cymry America, i, 59;
- Baner, 12 Hydref 1870.
Awdur:
Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth